SL(6)374 – Y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion

Cefndir a diben

Mae’r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion a gyhoeddwyd yn 2013 wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau a wnaed gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Diwygio) 2023 (“Rheoliadau 2023”) a ddaeth i rym ar 3 Mai 2023 

Fe wnaeth Rheoliadau 2023 ddiwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 ("Rheoliadau 2005") er mwyn cynnwys opsiwn i apelau derbyn gael eu cynnal o bell, yn ogystal ag yn bersonol, neu drwy gymysgedd o'r ddau. Maent yn codio rhai trefniadau dros dro a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. 

Mae Rheoliadau 2023 yn gymwys i'r ddau fath o wrandawiad apêl derbyn yr ymdrinnir â hwy o dan Reoliadau 2005, hynny yw apelau yn erbyn penderfyniad awdurdod derbyn i wrthod derbyn plentyn ac apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i dderbyn i'w hysgol blentyn sydd wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor.

Mae'r Cod hwn hefyd yn cynnwys rhai diwygiadau technegol sy’n adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol ers i’r Cod blaenorol gael ei gyhoeddi yn 2013.

Er gwybodaeth, gosodwyd y Cod hwn yn gyntaf ar 10 Mai 2023. Nododd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a ddosbarthwyd ar 17 Mai 2023 nifer sylweddol o wallau yn yr offeryn, a chafodd y Cod ei dynnu’n ôl wedyn gan Lywodraeth Cymru ar 26 Mai 2023. Cafodd ei ailosod ar 7 Awst 2023.

 

Y weithdrefn

Drafft Negyddol.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Cod gerbron y Senedd. Os, o fewn 40 diwrnod (ac eithrio diwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y gosodir y drafft, bydd y Senedd yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r Cod drafft, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r Cod.

Os na wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (ar ffurf y drafft).


Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7 mewn perthynas â’r Cod hwn.

1.     Ym mharagraff 3.3, mae datganiad ynghylch pobl "... sydd â phrofiad yn cynnal ymchwiliadau neu wrandawiadau disgyblu." [pwyslais wedi’i ychwanegu]. O ystyried y cyd-destun, mae'n ymddangos y dylai gyfeirio at “ymholiadau” yn hytrach nag “ymchwiliadau”. Ategir yr asesiad hwn gan y ffaith bod y datganiad, yn y testun Cymraeg, yn cyfeirio at “ymchwiliadau” yn hytrach nag “ymholiadau” trwy ddefnyddio'r gair “ymchwiliadau” yn hytrach nag “ymholiadau”.

 

2.     Ym mharagraff 4.23, mae datganiad mewn cromfachau ynghylch yr apelwyr yn ildio’u "hawl i gyfnod rhybudd 14 diwrnod ynglŷn â’u hapêl" ac yna cyfeiriad at y paragraff sy’n nodi’r hawl honno i gyfnod rhybudd (paragraff 4.4). Fodd bynnag, mae paragraff 4.4 yn darparu bod yn rhaid “rhoi o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd ysgrifenedig i apelwyr ynglŷn â dyddiad y gwrandawiad apêl”. Mae'r anghysondeb hwn yn debygol o achosi dryswch i'r darllenydd, ac felly dylid diwygio paragraff 4.23 i gyfeirio'n gywir at yr hyn a nodir ym mharagraff 4.4.

 

3.     Ym mharagraff 7.3, yn y testun Cymraeg, efallai y byddai’n fwy priodol defnyddio term gwahanol fel "cyflwyno” ar gyfer y cyfieithiad o“gofrestru”. Mae’r term presennol, “cofrestru”, yn awgrymu na ddylai’r dyddiad y bydd y panel apêl yn cyfarfod fod yn hwyrach na’r 15fed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan gofrestrir yr apêl yn hytrach na'r diwrnod y caiff ei gyflwyno neu ei dderbyn.

 

4.     Yn Atodiad A, ym mharagraff A.20, yn y testun Cymraeg, mae’r geiriau "fel disgybl" ar goll o'r cyfieithiad o'r frawddeg "derbyn plentyn fel disgybl [pwyslais wedi’i ychwanegu].

 

 

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

30 Awst 2023